Cwest SAS: Dyfarniad ar 14 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts ym mis Gorffennaf 2013
Mae'r crwner yn y cwest i farwolaethau tri milwr yn ystod marferiad SAS ar Fannau Brycheiniog, yn dweud y bydd hi'n rhoi ei dyfarniad ar 14 Gorffennaf.
Fe gadarnhaodd Lousie Hunt y dyddiad wrth i'r cwest ddirwyn i ben yn Solihull ddydd Gwener.
Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts, o Fae Penrhyn, ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013, a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd y tri yn rhan o gwrs hyfforddi 16 milltir yr SAS ar y pryd.
Yn ystod y gwrandawiadau, a barodd bedair wythnos, clywodd y cwest y byddai'r dynion wedi goroesi petai nhw wedi cael eu galw yn ôl yn gynt ar ddiwrnod poethaf 2013.
Ar ddiwrnod olaf y cwest, fe ofynnwyd i'r crwner allai hi ystyried dyfarniad o ladd anghyfreithlon.
Ymysg materion eraill, bydd angen ystyried a oedd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi methu a sicrhau fod yr ymarferiad wedi ei gynnal yn ddiogel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2015

- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2015
