Pallial: Canfod dyn yn ddieuog
- Cyhoeddwyd

O'r chwith: Gary Cooke, George Phoenix, Keith Stokes, Roy Norry, Edward Huxley, David Lightfoot a Roger Griffiths
Mae dyn wedi ei ganfod yn ddieuog o ymosod yn anweddus wrth i achos llys ddirwyn i ben yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Roedd y cyn-athro a pherchennog cartref plant, Roger Griffiths, 76, o Wrecsam, yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus.
Ddydd Iau, fe'i cafwyd yn ddieuog o un cyhuddiad, a chafodd ei ganfod yn ddieuog o'r ail achos bnawn Gwener.
Roedd Mr Griffiths yn dweud nad oedd erioed wedi cwrdd â'r un oedd yn ei gyhuddo, ac ychwanegodd fod y dyn yn dweud celwydd er mwyn hawlio iawndal.
Fe roddodd ei ben yn ei ddwylo pan ddaeth y dyfarniad ddydd Gwener.
Brynhawn Iau, fe gafwyd tri dyn yn euog o'r cyhuddiadau yn eu herbyn. Cafwyd Mark Grainger, arferai gael ei adnabod fel Gary Cooke, yn euog o 16 o gyhuddiadau, David Lightfoot yn euog o naw a dieuog o un cyhuddiad, a Roy Norry yn euog o chwe chyhuddiad a dieuog o ddau.
Cafodd y rheithgor eu hanfon adre' amser cinio dydd Gwener a byddan nhw'n parhau i drafod y naw cyhuddiad sy'n weddill ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2015
