Babi afon Taf: Marw'n fuan wedi ei eni
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd pabell ei chodi gan yr heddlu ar y safle ger Afon Taf
Mae'r heddlu yn credu fod y bachgen bach a ddarganfuwyd mewn afon yng Nghaerdydd wedi marw yn fuan ar ôl cael ei eni.
Daethpwyd o hyd iddo yn ardal Taffs Mead ger Afon Taf yr wythnos diwethaf.
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, fe wnaeth bydwraig o fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro erfyn ar fam y babi i gysylltu â'r gwasanaethau brys.
Dywedodd Suzanne Hardacre: "Mae ein bydwragedd a meddygon yn poeni amdanoch chi ac yn deall eich bod wedi bod trwy gyfnod trawmatig iawn."
Dywedodd fod y tîm yn deall efallai bod y fam yn "rhy ofnus i ddod ymlaen", ond dywedodd y byddai yn cael pob gofal a hynny yn gyfrinachol.
"Rydym yn ymwybodol fod hyn wedi bod yn gyfnod anodd a thrallodus iawn iddi, ac nid ydym yma i'w barnu." ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2015
