Trafod datblygu hen reilffordd Trawsfynydd
Daeth dros 50 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ym Mlaenau Ffestiniog nos Iau i drafod dyfodol yr hen reilffordd i Drawsfynydd.
Gobaith menter leol yw datblygu'r lein ar gyfer gweithgareddau hamdden fyddai'n rhoi hwb economaidd i'r ardal.
Ond mae'r perchnogion Network Rail yn dweud bod 'na bosibilrwydd y bydd angen ail-agor y rheilffordd yn y dyfodol gyda dyfodiad Parth Menter Trawsfynydd sydd a'r nod o ddenu swyddi i'r ardal.
Adroddiad Dafydd Evans.