Enwi gyrrwr beic modur fu farw
- Cyhoeddwyd

Cafodd y B4319 ei chau am gyfnod wrth i'r heddlu ymchwilio
Mae enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad â cherbyd 4X4 yn Sir Benfro wedi cael ei gyhoeddi.
Bu farw Peter MacKay, 63 oed o Maidenwells, mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd Mitsubishi Shogun llwyd ar y B4319 o Benfro i Maidenwells ar 2 Gorffennaf.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod Mr MacKay, oedd yn gyrru beic Kawasaki du adeg y gwrthdrawiad, yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae'r heddlu hefyd yn gofyn i unrhyw un oedd yn dyst i'r ddamwain i'w ffonio ar 101 wrth iddyn nhw ymchwilio'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2015
