Tân ar stad ddiwydiannol
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr yn brwydro tân difrifol mewn adeilad ar stad ddiwydiannol ym Mlaenafon, Torfaen.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 03:56 fore Sul, 5 Gorffennaf wedi adroddiadau bod mwg yn dod o uned brosesu bwyd masnachol.
Ar un cyfnod roedd chwe injan dân ar y safle gan gynnwys peiriant hydrolig arbenigol.
Er bod y diffoddwyr yn dal i weithio ar y safle maen nhw wedi gorfod camu nôl ychydig wrth i nenfydau'r adeiladau ddymchwel.
Fe ddywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y diffoddwyr "mewn sefyllfa amddiffynnol" ar hyn o bryd.