Ymgeiswyr Llafur yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Roedd yr hustyngau yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Fe wnaeth dros 600 o bobl fynychu hustyngau yng Nghaerdydd ddydd Sul ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur.
Mae Andy Burnham, Yvette Cooper, Jeremy Corbyn a Liz Kendall yn gobeithio olynu Ed Miliband a ymddiswyddodd wedi etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Mewnfudo, addysg a thlodi plant oedd ymhlith y prif bynciau trafod.
Roedd yna drafodaeth fywiog hefyd ynglŷn â methiannau ymgyrch etholiadol Llafur.
Dywedodd Ms Cooper fod apêl y blaid wedi bod yn rhu gul, tra bod Mr Burnham yn cyhuddo'r cyn arweinydd o beidio â mynd i'r afael a'r myth mai Llafur oedd ar fai am yr argyfwng ariannol.
Dywedodd Ms Kenedall fod y Torïaid wedi llwyddo i faglu Llafur tra bod Mr Corbyn yn galw ar ei blaid i ymosod ar hyn yr oedd e'n ei alw yn "drachwant y Ceidwadwyr."
Dirprwy arweinyddiaeth
Roedd y pedwar yn son am angen y blaid i adeiladu ar y llwyddiant yng Nghymru - yr unig le yn y DU lle mae llafur mewn grym.
Bydd yr enillydd, a fydd yn cael ei ddewis mewn pleidlais o holl aelodau'r blaid, yn cael ei enwi ym mis Medi.
Cafodd y ddadl ei dilyn gan un tebyg ar gyfer ymgeiswyr am y dirprwy arweinyddiaeth.
Ben Bradshaw, Stella Creasy, Angela Eagle, Caroline Flint a Tom Watson sy'n gobeithio olynu Harriet Harman i'r swydd honno.
Mae hithau ar hyn o bryd yn arweinydd dros dro i'r blaid, ond bydd yn camu o'r neilltu pan fydd yr arweinydd a dirprwy arweinydd newydd yn cael eu cadarnhau.

Roedd Yvette Cooper, Jeremy Corbyn, Liz Kendall ac Andy Burnham yn ateb cwestiynau yn Neuadd y Ddinas Caerdydd