Cyhuddo bachgen 12 oed wedi ymosodiad mewn ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 12 oed wedi cael ei gyhuddo o ymosod a bod â chyllell yn ei feddiant wedi ymosodiad mewn ysgol yng Nghaerdydd.
Roedd yr ymosodiad ychydig cyn 08:30 ddydd Gwener, 3 Gorffennaf.
Mae'r bachgen wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo fod gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar 14 Gorffennaf.