Llandrindod: Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Bu farw Craig Thomas Savage yn dilyn digwyddiad yn Llandrindod ddydd Sul
Mae dyn o Bowys wedi ymddangos gerbron llys wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yn Llandrindod.
Mae Mark Leigh Thomas, 25, wedi ei gyhuddo o lofruddio Craig Thomas Savage, 31, ar Stryd Temple yn oriau man ddydd Sul.
Yn ymddangos ar gysylltiad fideo yn Llys y Goron Abertawe, siaradodd ond i gadarnhau ei enw.
Cafodd yr achos ei ohirio tan 19 Awst.