Carwyn Jones yn 'grac' am dâl diswyddo uwch-was sifil
- Cyhoeddwyd

Mae Carwyn Jones wedi ymdrechu i ddatganoli telerau uwch-weision sifil
Dywedwyd bod Prif Weinidog Cymru yn "grac" gyda thâl diswyddo o £230,000 a roddwyd i uwch-was sifil Llywodraeth Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Carwyn Jones ysgrifennu at y Prif Weinidog David Cameron ddwy flynedd yn ôl yn galw am ddatganoli telerau uwch-weision sifil i geisio osgoi tâl diswyddo gormodol.
Ond dywedodd llefarydd: "Fe gafodd hyn ei wrthod ac o ganlyniad mae'n rhaid i ni weithredu mewn system sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth y DU."
Mae hi wedi cael ei chadarnhau bod gwas sifil dienw wedi derbyn tâl diswyddo o £232,050 y llynedd - y ffigwr uchaf yn y blynyddoedd diwethaf a'r unig ffigwr dros £200,000.
Yn ôl telerau Cynllun Iawndal Gwasanaeth Sifil y DU, mae gan weithwyr hawl i un mis o dâl am bob blwyddyn o waith, hyd at fwyafrif o 21 mis.
Fe gafodd y taliad ei wneud wrth i'r Canghellor George Osborne geisio gosod uchafswm o £100,000 ar gyfer tâl diswyddo i staff y sector gyhoeddus.
'Osgoi tâl gormodol'
Fe ddywedodd ffynhonnell o Llywodraeth Cymru bod Carwyn Jones yn "grac" gyda'r taliad.
Yn ôl llefarydd: "Fe gafodd y taliad ei brosesu a'i gadarnhau gan Lywodraeth y DU.
"Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ysgrifennu at David Cameron ddwy flynedd yn ôl yn gofyn i ddatganoli telerau uwch-weision sifil i geisio osgoi tâl diswyddo gormodol pan mae pobl yn gadael y gwasanaeth sifil yng Nghymru.
"Fe gafodd hyn ei wrthod ac o ganlyniad mae'n rhaid i ni weithredu mewn system sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth y DU."