Cyhoeddi gemau ymgyrch Cwpan y Byd Cymru
- Cyhoeddwyd

Tîm Chris Coleman yw prif ddetholion grŵp D
Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia gyda gêm gartref yn erbyn Moldova ar 5 Medi 2016.
Fe fydden nhw'n gorffen y grŵp gyda gêm allai fod yn un dyngedfennol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar 9 Hydref 2017.
Daw'r gêm yna dridiau'n unig ar ôl trip oddi cartref i Georgia.
Tîm Chris Coleman yw prif ddetholion grŵp D, ac fe fydden nhw'n wynebu'r ail ddetholion, Awstria, oddi cartref ym mis Hydref 2016 ac yng Nghymru ym mis Medi 2017.

Ymgyrch Cwpan y Byd 2018 Cymru
2016
Dydd Llun, 5 Medi: Cymru v Moldova (19:45)
Dydd Iau, 6 Hydref: Awstria v Cymru (19:45)
Dydd Sul, 9 Hydref: Cymru v Georgia (17:00)
Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd: Cymru v Serbia (19:45)
2017
Dydd Gwener, 24 Mawrth: Gweriniaeth Iwerddon v Cymru (19:45)
Dydd Sul, 11 Mehefin: Serbia v Cymru (19:45)
Dydd Sadwrn, 2 Medi: Cymru v Awstria (19:45)
Dydd Mawrth, 5 Medi: Moldova v Cymru (19:45)
Dydd Gwener, 6 Hydref: Georgia v Cymru (17:00)
Dydd Llun, 9 Hydref: Cymru v Gweriniaeth Iwerddon (19:45)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2015
