Patagonia: Ystyried rhoi mwy o arian i gynllun iaith

  • Cyhoeddwyd
Caryn Ysgol yr Hendre
Disgrifiad o’r llun,

Bu Carwyn Jones yn ymweld ag Ysgol yr Hendre ar ddiwrnod olaf ei ymweliad

GanRhodri Llywelyn
Gohebydd BBC Cymru ym Mhatagonia

Ar ddiwrnod olaf ei ymweliad â Phatagonia ar gyfer dathlidau canrif a hanner ers sefydlu'r Wladfa, mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn fodlon ystyried rhoi rhagor o arian i Gynllun y Gymraeg yn nhalaith Chubut.

Fe gafodd y cynllun ei sefydlu ym 1997 i hyrwyddo a datblygu'r iaith ym Mhatagonia.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £56,000 y flwyddyn at y cynllun sy'n danfon tri pherson i weithio ym Mhatagonia rhwng misoedd Mawrth a Rhagfyr bob blwyddyn.

Mae'r cynllun hefyd yn derbyn arian gan y Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Cymru-Ariannin.

Yn ogystal, mae 'na gydlynydd dysgu o Gymru ym Mhatagonia yn barhaol i fod yn gyfrifol am ansawdd y dysgu.

Yn 2014 roedd 1174 o blant, pobl ifanc ac oedolion yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia - y nifer uchaf ers dechrau'r cynllun.

Disgrifiad,

Clare Vaughan o Gynllun y Gymraeg ym Mhatagonia: "Yr unig ffordd i gael plant i siarad Cymraeg yw rhoi addysg ddwyieithog iddyn nhw"

'Dim modd ehangu'

Ond yn ôl un o benaethiaid y cynllun fe ddaw amser pan na fydd modd ehangu gyda'r cyllid presenol.

Dywedodd Gareth Kiff, "…rhywbryd rydyn ni'n mynd i gynhyrchu llawer iawn o bobl oedran cynradd sydd yn siarad Cymraeg. Mae angen rhywle iddyn nhw fynd wedyn os ydyn ni'n mynd i'w cadw nhw fel siaradwyr".

Ychwanegodd y byddai £20,000 neu £30,000 ychwanegol yn gwneud "gwahaniaeth anferth".

Treuliodd Prif Weinidog Cymru y dydd yn ymweld ag ysgolion ar draws y dalaith.

Ar ôl ymuno gyda phlant Ysgol Yr Hendre yn Nhrelew i ganu Sosban Fach fe ddywedodd Carwyn Jones bod y cynllun yn gwneud gwaith "anhygoel".

"I feddwl dim ond 30 mlynedd yn ôl roedd pawb yn dweud y byddai'r iaith yn marw mas yn y Wladfa, mae'n wyrth i weld sut y mae pethau wedi pigo lan ers hynny," meddai.

Ychwanegodd y byddai'n ystyried cais am arian ychwanegol i'r cynllun petai cais yn cael ei wneud.

Bu Carwyn Jones hefyd yn ymweld â'r Gaiman yn ystod y bore cyn hedfan i'r Andes lle mae trydedd ysgol ddwyieithog, Cymraeg a Sbaeneg, yn cael ei hadeiladu yn Nhrevelin.

Rhagor o gynnwys ar yr holl ddathliadau ym Mhatagonia