Ffrwgwd mewn gêm griced amatur yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Fe allai dau glwb criced amatur golli pwyntiau wedi ffrwgwd rhwng y ddau dîm yn ystod gêm.
Trodd gêm Ail Gynghrair Sir Benfro rhwng Saundersfoot a Chilgeti yn sgarmes wedi i chwaraewyr sarhau ei gilydd.
Wedi ymgynghoriad gyda'r capteiniaid penderfynodd y dyfarnwr ohirio'r gêm ddydd Sadwrn diwethaf.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion yn ymwneud â'r digwyddiad.
Mae'r ddau dîm wedi derbyn pwyntiau ar gyfer y gêm a'r canlyniad wedi ei nodi fel gêm gyfartal.
Ond mae ymchwiliad wedi ei lansio gan bwyllgor gwaith Clwb Criced Penfro allai dynnu pwyntiau oddi ar y ddau dîm.