Ymosodiad Abercynon: Dau ddyn yn y llys
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth ymyl y ffordd ger Penrhiwceiber
Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd i wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio.
Anafwyd Mark Jones, 43 oed, ar ôl iddo gael ei saethu â gwn ar y ffordd rhwng Aberpennar ac Abercynon ym mis Gorffennaf.
Cyhuddwyd Stephen Bennett 52 oed, o Bontypridd, ac Edward Bennett, 47 oed, o Aberpennar o geisio llofruddio Mark Jones ac o fod a gwn yn eu meddiant.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad llys nesaf ym mis Hydref.
Clywodd y llys fod Mark Jones yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.