Gwrthdrawiad Aberdâr: Dynes wedi marw
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Bryn Terrace, Aberdâr
Bu farw dynes ac anafwyd saith arall yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yn Aberdâr yn gynnar bore dydd Llun.
Roedd wyth o bobl yn teithio yn y fan LDV Maxus coch am 03:30 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cadarnhaodd yr heddlu y bu farw gwraig ac mae saith o bobl yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Cafodd gyrrwr y fan, dyn 25 oed o Gwmafon, Aberdâr, ei arestio dan amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus.
Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.