Gwrthod cais safle glo brig yng Nghwm Rhymni
- Cyhoeddwyd

Protestwyr y tu allan i'r cyfarfod
Mae cynghorwyr Caerffili wedi gwrthod cais cynllunio ar gyfer safle glo brig yng Nghwm Rhymni.
Cafodd cais gan gwmni cloddi Miller Agent i agor safle Nant Llesg ei wrthod mewn cyfarfod dydd Mercher.
Dywed y cwmni y byddai'r safle yn cyflogi 239 o weithwyr yn llawn amser ac yn golygu buddsoddiad blynyddol o £13 miliwn.
Cyn y cyfarfod bu aelodau o Gyfeillion y Ddaear yn cynnal protest i wrthwynebu'r cynllun.
Ym mis Mehefin penderfynodd cynghorwyr yn unfrydol i ohirio gwneud penderfyniad er mwyn caniatáu amser i swyddogion ymchwilio i ddilysrwydd unrhyw benderfyniad i wrthod caniatâd.
Roedd Cyfeillion y Ddaear wedi ysgrifennu at gynghorwyr i wrthod y cais oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd.