Miloedd o ddisgylbion Cymru yn aros am ganlyniadau Lefel A
- Cyhoeddwyd

Yn 2014 fe lwyddodd 6.7% i gael A*
Bydd miloedd o ddisgyblion yng Nghymru yn cael gwybod canlyniadau eu harholiadau safon uwch, neu lefel A, ac ar gyfer y fagloriaeth fore Iau.
Y llynedd roedd yna gynnydd am y tro cyntaf ers pum mlynedd yn nifer y disgyblion lwyddodd i ennill un ai gradd A neu A*.
Fe lwyddodd 6.7% i gael A* yn 2014 - y ganran uchaf ers i'r raddfa gael ei chyflwyno yn 2010.
Ond bu gostyngiad bychan i 97.3% yn y canran wnaeth sicrhau graddau rhwng A* i E.
Bydd nifer hefyd yn edrych i weld a yw disgyblion Cymru yn parhau i gau'r bwlch sy'n bodoli rhyngddyn nhw a disgyblion Lloegr.
A bydd diddordeb hefyd i weld a yw merched yn parhau i berfformio yn well na bechgyn.?
Eleni bydd canlyniadau elfen graidd y fagloriaeth hefyd wedi eu graddio am y tro cyntaf o A* i C.
Roedd yna bryder am ba mor ddefnyddiol oedd yr hen system o basio, methu neu anrhydedd.


MANYLION CLIRIO COLEGAU
Prifysgol Aberystwyth , dolen allanol0800 121 40 80 @AberUni "
Prifysgol Bangor , dolen allanol 0800 085 1818; 0800 328 5763 (Welsh lang) @BangorUni
Prifysgol Caerdydd, dolen allanol, 029 2087 6000 @cardiffuni
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, dolen allanol 0300 330 0755 @cardiffmet #cardiffmet
Prifysgol Glyndwr , dolen allanol 01978 293439
Prifysgol Abertawe, dolen allanol 0800 094 9071 @SwanseaUni
Y Drindod Dewi Sant, dolen allanol 0300 323 1828 @UWTSD
Prifysgol De Cymru, dolen allanol 03455 76 06 06 @UniSouthWales
UCAS, dolen allanol #Clearing @ucasclearing 0371 468 0 468
