Buddugoliaeth haeddianol i Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Gomis wedi sgorio dwy mewn dwy gem.
Abertawe 2-0 Newcastle
Fe wnaeth goliau gan Bafetimbi Gomis ac Andre Ayew helpu Abertawe i fuddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Newcastle yn Stadiwm y Liberty.
Fe wnaeth pas Jonjo Shelvey ryddhau Gomis wnaeth fynd heibio'r golgeidwad Tim Krul ac ergydio i gefn y rhwyd yn gynnar yn y gêm.
Cafodd amddiffynnwr Newcastle Daryl Janmaat ei anfon o'r maes ar ôl dau gerdyn melyn - yn troseddu yn gyson yn erbyn Jefferson Montero.
Fe wnaeth Montero a Gylfi Sigurdsson daro'r postyn, cyn i Ayew benio i gefn y rhwyd yn dilyn croesiad gan Montero.
Dywedodd rheolwr Abertawe Garry Monk: "Fe wnaethom reoli'r gêm o'r dechrau i'r diwedd. Ar ôl y cerdyn coch fe wnaethon nhw eistedd yn ôl yn fwy.
"Roeddem ni yn hynod o broffesiynol yn yr ail hanner gan wneud yn siŵr ein bod yn ennill heb ildio golau.
"Fe wnaethom ddechrau yn dda gyda gôl ffantastig. Ar ôl y cerdyn coch o' ni'n hynod o broffesiynol a gallwn wedi sgorio mwy o goliau."