Toriadau'r Trysorlys yn 'rhy gyflym a rhy bell'
- Cyhoeddwyd

Mae gweinidogion cyllid Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi rhybuddio bod toriadau gwariant llywodraeth y DU yn symud "yn rhy gyflym" ac yn mynd "yn rhy bell".
Mewn datganiad ar y cyd, mae'r gweinidogion yn codi pryderon bod toriadau yn peryglu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r gweinidogion wedi ysgrifennu llythyr at y Trysorlys, yn galw am gyfarfod cyn yr adolygiad gwariant nesaf.
Dywedodd y Trysorlys y byddai'n parhau i weithio gyda llywodraethau datganoledig cyn yr adolygiad.
'Peryglu gwasanaethau cyhoeddus'
Cafodd y datganiad ei ryddhau gan Jane Hutt o lywodraeth Cymru, Dirprwy Brif Weinidog Yr Alban, John Swinney ac Arlene Foster o lywodraeth Gogledd Iwerddon.
Mae'r gweinidogion yn credu bod toriadau yn y gyllideb, gafodd ei chyhoeddi fis diwethaf, yn effeithio arnyn nhw, ond nad oedd unrhyw ymgynghori wedi digwydd.
Ymysg y toriadau sy'n eu heffeithio mae treth cerbydau, cyllid ffyrdd a threth ar fusnesau mawr i dalu am brentisiaethau.

Mae Jane Hutt yn un o'r gweinidogion wnaeth ysgrifennu'r llythyr at y Trysorlys
Mae'r llythyr i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands, yn dweud bod y llywodraethau yn credu bod toriadau llywodraeth y DU yn "parhau i leihau gwariant cyhoeddus yn y DU yn rhy sydyn ac yn rhy bell, a chreu risg dianghenraid i'n gwasanaethau cyhoeddus".
"Rydyn ni hefyd o'r farn bod cynlluniau llywodraeth y DU wedi eu datblygu a'u cyfathrebu mewn modd anfoddhaol, heb roi gwybod o flaen llaw nac ystyriaeth am oblygiadau i lywodraethau datganoledig."
Mae'r gweinidogion hefyd yn dweud bod pryderon am amseru'r adolygiad gwariant.
Cynllun economaidd hirdymor
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod Mr Hands yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda gweinidogion y llywodraethau datganoledig.
Ychwanegodd: "Mae cynllun economaidd hirdymor y llywodraeth yn gweithio: economi Prydain dyfodd gyflymaf o wledydd G7 yn 2014 a 2015 ac mae'r diffyg ariannol wedi mwy na haneru.
"Ond mae'n dal i fod yn rhy uchel - ychydig o dan 5% - mae'n un o'r uchaf yn yr OECD, ac nid yw'n syndod bod gan y llywodraeth gynllun clir i ddelio gyda'r peth.
"Bydd yr adolygiad gwariant yn gosod yr arbedion sydd eu hangen i'r wlad fyw o fewn ei gallu yn ariannol."