Lluniau: Hwyl fawr i'r haf

  • Cyhoeddwyd

Doedd y tywydd ddim yn wych ond roedd yr haf yn gyfle i lawer ohonom ni gael ein gwynt atom a chael cyfle i ymlacio. Dyma rai o'r lluniau amrywiol dynodd y ffotograffydd Lleucu Meinir yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Siriol Teifi a Sam Edwards yn mynd am dro ar yr Aran, Llanuwchllyn.
Disgrifiad o’r llun,

"Dyma fy chwaer Siriol yn mynd am dro gyda'i dyweddi Sam ar odre'r Aran yn Llanuwchllyn"

Portread o Betsan Fflur yn 3 mis oed gyda'i thad. Roedd hi newydd ddod mas o'r ysbyty ar ol bwrw 4 pwys. Cafodd ei gen yn 26 wythnos oed
Disgrifiad o’r llun,

"Portread o Betsan Fflur yn dri mis oed gyda'i thad. Roedd hi newydd ddod mas o'r ysbyty. Dim ond pedair pwys oedd hi."

Ieuan James o Lanbedr Pont Steffan, Haltermaker / Gwneuthurwr Penffrwyn, yr unig un yng Nghymru sy'n creu penffrwyn gyda llaw. Mae'n eu gwerthu mewn digwyddiadau ar draws gorllewin Cymru ac yn mwynhau arddangos yn Sain Ffagan.
Disgrifiad o’r llun,

"Ieuan James o Lanbedr Pont Steffan yw'r unig un yng Nghymru sy'n dal i wneud penffrwynau ceffylau. Mae'n eu gwerthu mewn digwyddiadau ar draws y gorllewin ac yn mwynhau arddangos yn Sain Ffagan."

"Kgomsie Ngwenya, Morgan Williams a ffrind yn Stiwdio Sydyn Souled Out, digwyddiad Cristnogol i bobl ifanc yng Ngholeg y Bala."
Disgrifiad o’r llun,

"Kgomsie Ngwenya, Morgan Williams a ffrind yn Stiwdio Sydyn Souled Out, digwyddiad Cristnogol i bobl ifanc yng Ngholeg y Bala."

Un o yrrwyr Gala Stêm yng ngorsaf Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

"Dyma un o yrrwyr y peiriannau yn Gala Stêm Llanuwchllyn"

"Dyma bortread o un o gymeriadau hynod y gorllewin, Ann Williams, Y Neuadd, Llanybydder"
Disgrifiad o’r llun,

"Dyma bortread o un o gymeriadau hynod y gorllewin, Ann Williams, Y Neuadd, Llanybydder"

Treialon Cŵn Defaid Llanllwni, Gŵyl Banc Awst. Yr enyd cyn i'r cyffro gychwyn
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na hen ddisgw'l mla'n am dreialon Cŵn Defaid Llanllwni ar Ŵyl Banc Awst."

Jay Lusted un o'r siaradwyr gwadd yng nghynhadledd Souled Out yng Ngholeg Bala
Disgrifiad o’r llun,

"Jay Lusted, seren cyfres deledu Byd Mawr y Dyn Bach, un o'r siaradwyr gwadd yng nghynhadledd Souled Out yng Ngholeg Bala"

Pedol ar hen ddrws yn Llanuwchlyn
Disgrifiad o’r llun,

"Ddaw'r bedol â lwc i Gymru yng Nghyprus?"