40 o swyddi newydd mewn sinema yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae 40 o swyddi newydd yn cael eu creu wrth i sinema aml-sgrin newydd agor yng Nghasnewydd.
Fe fydd cwmni Cineworld yn agor eu hail sinema yn y ddinas, fel rhan o ddatblygiad Friars Walk.
Bydd wyth sgrin ar gael yn y sinema.
Fe fydd y safle yn cynnwys siopa, bariau a thai bwyta, ac mae disgwyl i'r datblygiad agor ym mis Tachwedd.
Cynhelir diwrnod agored ddydd Sadwrn nesaf gyda'r gobaith o recriwtio staff newydd ar gyfer y sinema.