Gwrthdrawiad: Marwolaeth cerddwr
- Cyhoeddwyd

Ffordd yr A476 rhwng Carmel a Ffairfach
Bu farw dyn ar ôl iddo gael ei daro gan gar ger Ffairfach, Llandeilo.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A476 rhwng Ffairfach a Charmel tua 21:00 nos Sadwrn.
Yn ôl yr heddlu bu farw'r dyn 49 oed ar ôl iddo gael ei daro gan Vauxhall Corsa coch.
Yn dilyn y digwyddiad fe gysylltodd y gyrrwr â'r gwasanaethau brys, ond bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.
Roedd y dyn a fu farw yn hanu o ardal Penygroes.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i siarad â thystion a oedd yn teithio rhwng Ffairfach a Charmel pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.