Beiciwr o Fangor wedi marw yn Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Mae'r Garda yn Iwerddon wedi dweud mai dyn o Fangor gafodd ei ladd wedi i'w feic modur daro wal yn Sir Waterford ddydd Mercher.
Roedd Colin Unsted yn 54 oed.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 17:15 ddydd Mercher ar ffordd yr R448 ger dinas Waterford.
Fe gafodd ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Prifysgol Waterford lle bu farw.
Mae'n gadael gweddw a dau o blant.