Southampton yn suddo'r Elyrch
- Cyhoeddwyd

Sadio Mane yn sgorio er gwaethaf ymdrech fawr Ashley Williams
Southampton 3-1 Abertawe
Adroddiad Gareth Blainey o Stadiwm St Mary's
Mae cyfnod gwael Abertawe yn parhau ar ôl perfformiad siomedig yn Southampton
Fe aeth Southampton ar y blaen ar ôl 11 munud yn unig - ac roedd hi'n gol flêr o safbwynt Abertawe. 'Doedd y marcio ddim yn ddigon da ac fe roddwyd y cyfle i Virgil van Dijk benio i'r rhwyd.
Roedd Southampton yn haeddu'r fantais - yn y munudau agoriadol roedd Southampton wedi chwarae yn well na Abertawe, ac roedd asgellwyr Southampton yn achosi problemau cyson.
Mi gafodd y niwed mwyaf ei wneud yn chwarter awr cynta'r ail hanner.
Dusan Tadic yn sgorio ar ôl i'w groesiad daro Ki Sung-yueng, a saith munud yn ddiweddarach sgoriodd Sadio Mane un arall i Southampton.
Saith munud o'r diwedd sgoriodd Gylfi Sigurdsson unig gôl Abertawe o'r smotyn.
Un pwynt yn unig i Abertawe felly o'u tair gêm ddiwethaf, ac mae rhediad diflas diweddar Garry Monk yn parhau.
Roedd Gareth Blainey yn sylwebu'n fyw ar raglen Camp Lawn ar BBC Radio Cymru.