'Gwleidyddiaeth Newydd' Jeremy Corbyn
- Cyhoeddwyd

Jeremy Corbyn a'i ddirprwy Tom Watson
'Gwleidyddiaeth Newydd'. Dyna yw mantra Jeremy Corbyn a'i dîm.
Mae'r ymchwydd o gefnogaeth ymysg aelodau cyffredin Llafur ar gyfer eu harweinydd newydd yn dystiolaeth, medde nhw, bod yna awydd am ffordd wahanol o wneud gwleidyddiaeth.
Fe welon ni hynny ar lawr Tŷ'r Cyffredin pan wnaeth e osgoi'r frwydr 'Punch a Judy' a gofyn cwestiynau'r cyhoedd i'r Prif Weinidog.
Mae e hefyd am drawsnewid y Blaid Lafur drwy roi mwy o rym i'r aelodau cyffredin a sicrhau bod yna ddadlau dros bolisïau.
Mae Mr Corbyn yn mynnu na fyddai'n drychineb petai dwy farn wahanol o fewn y blaid.
Ond dyma'r broblem iddo: os nag yw e'n gallu darbwyllo aelodau o'i gabinet ei hun o'i safbwynt ar bolisïau, mae rhai'n gofyn, sut mae e'n gobeithio darbwyllo'r cyhoedd o'i allu i arwain?
Yn wir, ar sawl polisi allweddol - Ewrop, Trident a Syria - mae'n sicr bod yna wahaniaeth barn rhwng Jeremy Corbyn a rhai o aelodau ei gabinet.
Mae'r newidiadau i'r wladwriaeth les mae'r llywodraeth Geidwadol yn bwriadu cyflwyno hefyd yn creu tipyn o ddadlau mewnol.
Anghytuno rhwng Aelodau Seneddol a'r aelodau cyffredin
Wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd Mr Corbyn wrth gynhadledd y TUC bod angen cael gwared ar y syniad o roi uchafswm ar fudd-daliadau y gall rhywun eu hawlio.
Y noson hynny, roedd ei lefarydd ar waith a phensiynau - yr Aelod Seneddol Cymreig Owen Smith - wedi gwrthddweud hynny gan ddweud mai adolygu'r agwedd yna yw bwriad y blaid.
Mae arweinydd y blaid Gymreig hefyd yn anghytuno, gan ddweud ei fod e'n credu'r "byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi'r syniad o osod uchafswm".
"Y tric yw sicrhau bod e ar lefel sy'n deg," medde Carwyn Jones.
Pan enwodd Corbyn ei gabinet newydd, fe ddywedodd un o'r tri wyneb Cymreig o amgylch y bwrdd, Aelod Seneddol y Rhondda Chris Bryant, "mae'n mynd i fod yn siwrne anghyffyrddus".
Does dim dwywaith am hynny.
Wedi'r cyfan, mae'n amlwg fod yna wahaniaeth barn rhwng yr aelodau Llafur ar lawr gwlad ac aelodau seneddol y blaid - roedd yna gefnogaeth enfawr i Mr Corbyn ymysg yr aelodau cyffredin ond braidd dim o'i gyd-aelodau seneddol.
Un peth sydd yn sicr o dawelu meddyliau yw buddugoliaethau etholiadol.
I'r perwyl hynny, fe fydd yna brawf cynnar yn Llundain, yr Alban a Chymru'r flwyddyn nesaf.
Yn ei araith ddoe bu Carwyn Jones yn amddiffyn record ei lywodraeth ym Mae Caerdydd ac mae Mr Corbyn yn barod i wneud hynny hefyd, er iddo ddweud bod yna ambell i broblem gyda rhai agweddau o iechyd ac addysg.
Mae Jeremy Corbyn yn dweud y bydd e'n ymgyrchu yng Nghymru "digonedd o weithiau" cyn etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf.
Efallai y bydd Prif Weinidog Cymru yn awyddus bod Jeremy Corbyn yn osgoi rhoi gormod o sylw i rai o'r problemau hynny.

Jeremy Corbyn ar y llwyfan fel arweinydd am y tro cyntaf