Ffyrdd ynghau ar gyfer ras fawr
- Cyhoeddwyd

Bydd y ras yn dechrau ar Ffordd y Castell
Bydd nifer o ffyrdd yng nghanol Caerdydd yn cael eu cau i draffig ddydd Sul wrth i fwy na 22,000 o redwyr gystadlu mewn ras hanner marathon.
Fe fydd y ras 13.11 milltir yn dechrau yn Ffordd y Castell am 09:00, gyda chystadleuwyr cadair olwyn yn dechrau am 08:50.
Mae llwybr y ras yn mynd drwy farina Penarth, Bae Caerdydd a Pharc y Rhath cyn gorffen ger Neuadd y Ddinas.
Fe fydd y ras yn cael ei darlledu yn fwy am y tro cyntaf ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Two Cymru Wales.
Fe fydd y rhan fwyaf o ffyrdd y ddinas yn ailagor am 12:00.