Cau'r A55 i orffen gwaith cynnal a chadw
- Cyhoeddwyd

Bydd gwaith yn dechrau ar un o ffyrdd prysuraf gogledd Cymru ddydd Sul sy'n golygu cau rhan o'r ffordd am gyfnod.
Dyma ail ran y cynllun i wella twneli'r A55 a bydd goleuadau LED newydd yn cael eu gosod yn nhwnel Penmaenbach.
Yn ôl y llywodraeth, y bwriad yw gwella'r amodau i yrwyr yn ogystal â defnyddio llai o drydan.
Mae goleuadau tebyg wedi eu gosod yn nhwneli Conwy a Phen-y-Clip yn barod.
Bydd y gwaith yn parhau am hyd at naw wythnos, yn golygu cau'r ffordd i gyfeiriad y gorllewin dros nos, a chau un lôn yn ystod y dydd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, fod "yr A55 yn hanfodol i economi Cymru" a bod y llywodraeth yn budsoddi "i sicrhau bod y ffordd yn ddiogel".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2015
