Creu 100 o swyddi newydd ym Mlaenau Gwent
- Cyhoeddwyd

Mae gan Zorba Delicacies safle ar Stad Ddiwydiannol Rasa yng Nglyn Ebwy yn barod
Mae cwmni bwyd wedi dweud y bydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ffatri £9m ym Mlaenau Gwent.
Ar hyn o bryd mae Zorba Delicacies yn cynhyrchu cawl a sawsiau ar eu safle ar Stad Ddiwydiannol Rasa, Glyn Ebwy.
Bydd y ffatri newydd yn Nhredegar.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Chris Nash fod angen ehangu yn yr ardal oherwydd "gweithwyr o ansawdd uchel".