Prifardd cadair Eisteddfod 2006, Gwynfor ab Ifor, wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae enillydd cadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006, y Prifardd Gwynfor ab Ifor, wedi marw yn 61 oed.
Cafodd ei eni yn Sling yn 1954.
Graddiodd o Brifysgol Cymru yn 1975 a chael tystysgrif i raddedigion ym Mangor yn 1976.
Wedi gyrfa gyda Chyngor Gwynedd yn yr adran addysg yn bennaf daeth yn brif swyddog gweinyddol y Coleg Normal o 1989 hyd uno'r sefydliad gyda'r Brifysgol yn 1996.
Bu'n uwch-gofrestrydd cynorthwyol gyda'r brifysgol tan 2000.
Yn y flwyddyn honno y sefydlodd fusnes cyfieithu Tasg ym Methesda.
Enillodd gadair Eisteddfod y Ffôr ger Pwllheli yn niwedd y 1970au a chystadlu am gadair Eisteddfod Meirion a'r cyffiniau yn 1997.

Cyfrannodd yn gyson at ymrysonfeydd Barddas yn yr 1980au ac ar Dalwrn y Beirdd gyda thimau Dyffryn Ogwen a Thregarth.
Yn hunangofiant John Ogwen, Hogyn o Sling, cyfeirir at Mr ab Ifor fel "bardd a fydd, gobeithio, y cyntaf o Sling i ennill Cadair y Genedlaethol".
Fe gymerodd hi 10 mlynedd i'r broffwydoliaeth honno gael ei gwireddu, gan i Mr ab Ifor ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006.
Roedd yn dad i bedair merch, Elin, Angharad, Mari a Rhiannon Gwyn.