Cyhoeddi rhestr fer 'arwyr lleol chwaraeon'
- Cyhoeddwyd

Mae Chwaraeon Cymru a BBC Cymru wedi datgelu rhestr fer o arwyr lleol chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru ar gyfer 2015.
Ar ôl chwilio ar hyd a lled Cymru, mae'r unigolion sydd yn rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Cymru 2015 wedi'u dewis gan banel arbenigol o feirniaid.
Dyma'r bobl sydd yn y cefndir yn aml, ond sy'n helpu i sicrhau bod chwaraeon cymunedol yng Nghymru'n ffynnu.
Bydd yr unigolion sydd wedi eu dewis yn dod at ei gilydd ar 7 Rhagfyr yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd i gydnabod goreuon y byd chwaraeon elît ac ar lawr gwlad yng Nghymru.
Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn bartneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru a BBC Cymru Wales er mwyn creu dathliad chwaraeon blynyddol mwyaf y wlad.
'Arwain y ffordd'
Wrth gyhoeddi'r rhestr fer, dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: "Ar adeg pan mae chwaraeon yn cael ei gofleidio gan ein cenedl ni yn fwy nag erioed o'r blaen, dyma'r unigolion sydd wrth galon yr hyn sy'n cael ei gyflawni.
"Rhaid i chwaraeon cymunedol gynnwys profiadau a chyfleoedd pleserus i ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan.
"Mae'r hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr yma'n arwain y ffordd i gael mwy o bobl yng Nghymru i wirioni ar chwaraeon.
"Roedd dewis yr unigolion ar gyfer y rownd derfynol yn dasg mor anodd ac mae darllen eu straeon yn profi eu bod yn haeddu'r sylw yma."
'Ysbrydoledig'
Dywedodd Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru, Geoff Williams: "Mae gan bob un sydd yn y rownd derfynol stori hynod ysbrydoledig i'w rhannu.
"Mae meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent chwaraeon, a hefyd cefnogi'r rhai sy'n mwynhau chwaraeon fel rhan o'u bywyd bob dydd, yn allweddol er mwyn cynnal statws Cymru fel cenedl chwaraeon o safon.
"Unwaith eto, mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn gyfle i athletwyr elît ac ar lawr gwlad o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ddod at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiant."

Yr unigolion sydd yn y rownd derfynol fel hyfforddwyr a gwirfoddolwyr cymunedol yw:
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Ade Howells - Rygbi, Castell-nedd Port Talbot
Jan Davies - Gymnasteg, Wrecsam
Wendy Pressdee - Pêl-rwyd, Abertawe
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
Nikki Upton - Hoci, Caerffili
Samantha O'Callaghan - Pêl-rwyd, Blaenau Gwent
Angeline Tshiyane - Aml-Chwaraeon, Casnewydd
Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn
Jordan Rosser - Golff, Rhondda Cynon Taf
Greg Price - Tennis Bwrdd, Blaenau Gwent
Lowri Haf Barker - Pêl-rwyd, Sir y Fflint
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
Robert Cunnah - Sir Ddinbych, Aml-Chwaraeon
Jonathan Williams - Merthyr, Aml-Chwaraeon
Elan Môn Gilford - Ynys Môn, Aml-Chwaraeon
Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn
Caroline Matthews - Caerdydd, Pêl Fasged Cadair Olwyn
John Wilson - Abertawe, Bowlio i Bobl â Nam ar y Golwg
Gwilym Lewis - Sir Gaerfyrddin, Rygbi

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Gwobrau Chwaraeon Cymru, dolen allanol.