Carchar am 18 mlynedd am ymosodiadau rhyw ar blant
- Cyhoeddwyd

Plediodd Peter Pendlebury yn euog i 18 cyhuddiad yn Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn o Ddinbych wedi cael 18 mlynedd o garchar am gyfres o ymosodiadau rhyw ar blant, gan gynnwys treisio.
Plediodd Peter Pendlebury, sy'n 71 mlwydd oed, yn euog i 18 cyhuddiad.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Pendlebury yn gyfrifol am nifer o ymosodiadau dros gyfnod o bron i 40 mlynedd.
Dywedodd y Barnwr Philip Harris-Jenkins ei fod wedi cwtogi'r ddedefryd o ddwy flynedd gan fod Pendlebury wedi pledio'n euog.
Bydd Pendlebury yn cael ei gofrestru fel troseddwr rhyw a bydd cyfyngiadau ar unrhyw gyswllt gyda phlant yn y dyfodol.
Fe fydd Pendlebury yn gallu gwneud cais am barôl ar ôl cwblhau hanner ei ddedfryd.