Darganfod gweddillion dyn o Wlad Pwyl yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn Sir Gaerfyrddin yn credu mai gweddillion dyn o Wlad Pwyl gafodd eu darganfod yn Felinfoel ddydd Mawrth.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth wedi i swyddogion gael eu galw i Pleasant View, Felinfoel, ger Llanelli, yn dilyn adroddiadau am "ddigwyddiad".
Mae dau ddyn a dynes yn parhau i fod yn y ddalfa.
Nid yw'r heddlu wedi cadarnhau corff pwy sydd wedi ei ddarganfod.