Rhybudd am donnau uchel dros y dyddiau nesaf
- Cyhoeddwyd

Tonnau yng Nghricieth fis Chwefror yn ystod llanw uchel
Mae disgwyl y bydd tonnau uchel yn taro arfordir Cymru dros y dyddiau nesaf o achos gwyntoedd arfordirol cryf.
Mae pobl mewn ardaloedd ar hyd yr arfordir, yn enwedig ar hyd Bae Ceredigion, wedi eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus am lifogydd.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod y bygythiad o achos cyfuniad o donnau uchel a gwyntoedd cryfion.
Esboniodd Scott Squires o Gyfoeth Naturiol Cymru y gallai rhai tonnau mawr "dasgu dros amddiffyniadau arfordirol".
Mae disgwyl glaw trwm a chyson i ddisgyn ar rannau o Gymru dros y penwythnos, yn enwedig yn y gogledd.
Mae pobl sy'n bwriadu teithio dros y tri diwrnod nesaf wedi eu rhybuddio i gymryd gofal ychwanegol ac i ychwanegu amser teithio at eu siwrne.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai'n cyhoeddi rhybuddion llifogydd os bydd afonydd yn cyrraedd lefelau uchel.