Marwolaethau gwaith dur: Parhau i chwilio am gyrff
- Cyhoeddwyd

Roedd Peter O'Brien yn dad i chwech o blant
Mae'r gwaith o chwilio am gyrff dau ddyn fu farw mewn ffrwydrad ar safle gwaith dur yng Nghaerdydd ddydd Mercher yn parhau.
Bu farw Peter O'Brien, 51 o Lanisien yng Nghaerdydd, a Mark Sim, 41 o Gil-y-Coed, Sir Fynwy ar safle dur Celsa yn Sblot.
Fe gafodd pump arall eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae'r cwmni yn gweithio gydag awdurdodau iechyd a diogelwch er mwyn ceisio dod o hyd i union achos y ffrwydrad.

Fe welwyd cŵn yn cael eu cymryd i'r safle ddydd Iau tra bo timau chwilio arbenigol wedi bod yno hefyd.
Fe ddigwyddodd y ffrwydrad am tua 10:30 fore Mercher, a chafodd ddwsinau o gerbydau'r gwasanaethau brys eu gyrru i'r safle.
Bu diffoddwyr tân yn brwydro fflamau ar lawr gwaelod yr adeilad, ble cafodd y pum dyn eu hanafu.
Cafodd un ei drin ar y safle ac fe gafodd y pedwar arall eu cludo i'r ysbyty, ond dim ond un sy'n parhau yno erbyn hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2015
