Garry Monk: Bwrdd Abertawe'n ystyried dyfodol y rheolwr
- Cyhoeddwyd

Mae bwrdd Clwb Pêl-droed Abertawe yn ystyried dyfodol y rheolwr Garry Monk yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig.
Mae uwch-aelodau'r bwrdd yn bryderus am rediad yr Elyrch o un fuddugoliaeth mewn 10 gêm, gyda'r clwb yn disgyn i'r 14eg safle yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Bournemouth ddydd Sadwrn.
Fe all yr is-reolwr Pep Clotet adael hefyd, gydag ef ar y rhestr fer ar gyfer swydd rheolwr Brentford.
Fe wnaeth Monk, 36 oed, gymryd y swydd fel rheolwr ym mis Mai 2014, gan arwain Abertawe i'w perfformiad gorau erioed yn y gynghrair y tymor diwethaf.
Er dechrau da i'r tymor yma, dim ond unwaith mae'r Elyrch wedi bod yn fuddugol ers iddyn nhw drechu Manchester United ym mis Awst.