Ysbyty Maelor: Ymchwiliad cyfradd marwolaethau uchel
- Cyhoeddwyd

Mae cyfradd marwolaeth uwch na'r cyfartaledd ynghyd â chleifion sy'n gadael uned frys heb eu gweld wedi sbarduno ymchwiliad i Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Ym mis Hydref, roedd 15% o bobl wedi gadael yr ysbyty heb eu gweld gan feddygon - a'r targed erbyn mis Mawrth nesaf yw 5%.
Hefyd, mae gan yr ysbyty gyfradd marwolaethau yn ôl risg, sy'n uwch nag Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.
Bydd adroddiad ar y sefyllfa yn cael ei drafod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 8 Rhagfyr.
Mae'r adroddiad wedi ei ysgrifennu gan y prif swyddog gweithredol, Morag Olsen, a ddywedodd: "Mae angen i ni ddeall pam fod Ysbyty Maelor Wrecsam yn eithriad o ran perfformiad yng ngogledd Cymru."
Targed
Yn yr adroddiad, ychwanegodd bod cymariaethau gydag ymddiriedolaethau tebyg eu maint yn Lloegr yn dangos "bod rhywbeth unigryw i Ysbyty Maelor, ei arferion, a sut mae ei phoblogaeth yn defnyddio'r gwasanaeth adran achosion brys".
Mae'r ysbytai eraill yng ngogledd Cymru eisoes wedi cyrraedd y targed, gyda 4.36% o gleifion yn gadael Ysbyty Gwynedd a 4.54% yn gadael Glan Clwyd heb gael eu gweld.
Yn yr un adroddiad, mae Ms Olsen yn dweud y bydd y rheswm dros y gyfradd farwolaethau yn ôl risg hefyd yn cael ei adolygu, gan ei fod yn uwch na'r hyn yn y ddau ysbyty cyffredinol arall yn y rhanbarth.
Fe gafodd Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig - y lefel uchaf posibl o ymyrraeth llywodraeth Cymru - ym mis Mehefin yn ystod pryderon am ei arweinyddiaeth.