Gwrthdrawiad M4: Beiciwr wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd ar ddydd Nadolig.
Digwyddodd y gwrthdrawiad nos Wener rhwng cyffordd 24 (Coldra) a chyffordd 25 (Caerllion), ac fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 18:00.
Roedd y dyn 49 oed o Gil-y-Coed, Sir Fynwy, yn gyrru beic Honda, a bu farw yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i'r digwyddiad.
Cafodd y draffordd ei chau am gyfnod rhwng C24-C28, ond fe gafodd ei hailagor ychydig cyn 02:00 fore Sadwrn.