Glaw trwm yn achosi rhagor o lifogydd

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd Porth Tywyn
Disgrifiad o’r llun,

Swyddog tân y tu allan i dŷ ym Mhorth Tywyn

Mae Heddlu Dyfed Powys, dolen allanol yn dweud fod glaw trwm yn achosi llifogydd ar nifer o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae adroddiadau hefyd bod llifogydd yn achosi trafferthion yn ardal Casnewydd a Chwmbrân. Mae llifogydd wedi arwain at oedi i'r ddau gyfeiriad yn nhwnneli Brynglas ger Casnewydd.

Mae'r Swyddfa Dywydd bellach wedi ymestyn ei rhybudd melyn tan 12:00 ddydd Mawrth.

Twnneli BrynglasFfynhonnell y llun, Traffic Wales
Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd yn nhwnneli Brynglas ger Casnewydd

Heol De GwyrFfynhonnell y llun, Heddlu'r de
Disgrifiad o’r llun,

Llun gan Heddlu'r De o Heol Dheheuol Gŵyr

Mae'r rhybudd diweddara'n berthnasol i ardaloedd yn y canolbarth, y de a'r gorllewin.

Yr ardaloedd dan sylw yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.

Yn y cyfamser, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol un rhybudd coch a 13 rhybudd melyn am lifogydd.