Carchar i yrrwr wedi iddo gyfaddef lladd bachgen
- Cyhoeddwyd

Cafodd Hamid Ali Khan ei daro gan gar Audi S3 gwyn ar Heol Parc Ninian
Mae gyrrwr wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar wedi iddo gyfaddef achosi marwolaeth bachgen 12 oed drwy yrru'n beryglus.
Mae e hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd.
Bu farw Hamid Ali Khan ar ôl cael ei daro gan gar Calvin Markall, 26 oed fis Chwefror y llynedd.
Roedd Hamid yn ceisio croesi cyffordd ar Heol Parc Ninan yn ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd ar y pryd.

Dywedodd y barnwr fod Calvin Markall wedi "gyrru'n hollol anghyfrifol"
Plediodd Markall, o Dredelerch, yn euog i'r cyhuddiad yn ei erbyn yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau diwethaf.
Gyrru 'hollol anghyfrifol'
Wrth ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar, dywedodd y barnwr, Thomas Crowther QC, fod Markall wedi gyrru'n "hollol anghyfrifol", ac na allai unrhyw ddedfryd atgyweirio'r difrod sydd wedi ei achosi.
Ychwanegodd fod Markall wedi dangos edifeirwch.
"Efallai y gallwch chi," dywedodd y barnwr, "fel finnau ryfeddu at urddas a dyngarwch tad Hamid, sy'n dweud nad yw'n teimlo unrhyw ddicter."