Sale Sharks 38-5 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Roedd trechu Sale Sharks yn ormod o dasg i'r Dreigiau nos iau, wrth i'r tîm o ogledd orllewin Lloegr lwyddo i ymuno â'r dreigiau yn rowndiau wyth olaf Cwpan Her Ewrop.
Ar y cyfan, fe gafodd y gêm ei hennill yn yr hanner cyntaf, wrth i Brian Mujati a Josh Beaumont, naill sgorio ceisiau, yn ogystal â chiciau cosb, roi Sale ar y blaen o 24-0 cyn yr hanner.
Fe ddaeth mwy o bwyntiau i'r Siarcod yn yr ail hanner gyda chais gan Nev Edwards a chiciau gwych gan Danny Cipriani, cyn i Ashton Hewitt sgorio cais o gysur i'r Dreigiau.
Fe ychwanegodd cefnwr y Siarcod, Mike Haley, pumed gais hwyr at y sgôr, ac felly roedd popeth ar ben i'r Dreigiau.
Mae'r Dreigiau, a oedd eisoes wedi cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol, yn awr yn wynebu gêm oddi cartref yn rownd yr wyth olaf.