Connacht 30-17 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Cerdyn melyn i Phil John
Ar ôl colli pedwar gem yn olynol roedd Connacht yn dathlu nos Sadwrn gyda buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn y Scarlets yn y Sportsground, Galway.
Fe wnaeth Jake Heenan groesi ddwywaith yn yr hanner cyntaf yn dilyn sgarmesi rhydd o'r llinell daflu.
Roedd gan y Gwyddelod fantais o 13-0 ar yr egwyl.
Yn fuan wedi'r ailddechrau roedd y Scarlets yn ôl yn y gêm gyda Van der Merwe yn croesi a hynny ar ôl i'r bachwr Ryan Elias ddwyn y bêl yn dilyn sgarmes symudol.
Ond daeth diwedd ar obeithion yr ymwelwyr wrth i Phil John a Tom Price gael eu hanfon o'r cae.
Fe wnaeth cais yr un i Denis Buckley a Rodney Ah You sicrhau'r pwynt bonws i Connacht.