Gleision 10-3 Caeredin
- Cyhoeddwyd

Hon oedd pumed fuddugoliaeth y Gleision y tymor hwn
Fe wnaeth buddugoliaeth y Gleision olygu fod y tîm cartref yn symud i'r wythfed safle yn y Pro12, ond roedd hefyd yn golygu fod y Scarlets yn parhau ar y brig.
Byddai buddugoliaeth i'r Albanwyr wedi eu dyrchafu nhw i'r brig.
Roedd y Geision ar y blaen o fewn 90 eiliad, diolch i gais Dan Fish.
Y nhw hefyd oedd y tîm cryfaf yn yr hanner cyntaf, gan sicrhau mantais o 10-3.
Doedd fawr o gyfleoedd yn yr ail hanner.
Er i'r dyfarnwr benderfynu beidio â chaniatáu cais Rhys Patchell, doedd Caeredin yn wir fygythiad.
Roed naw chwaraewr dewis yr un yn absennol o'r ddau dîm, a hynny oherwydd gofion Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.