Heroin: Ymchwilio i farwolaethau
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn apelio ar unigolion sy'n gaeth i heroin neu eu teuluoedd i ofyn am gyngor yn dilyn dwy farwolaeth yn Abertawe.
Bu farw dynes 39 oed mewn fflat yn ardal Hafod yn oriau man bore Sul, a bu farw dyn 35 oed, mewn fflat gyfagos ar ôl syrthio i'r llawr tua 22:00 nos Sadwrn.
Dyw'r heddlu ddim yn trin y marwolaethau fel rai amheus ond maen nhw'n parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau.
Dywedodd y ditectif arolygydd Phil Sparrow: "Ar hyn o bryd nid ydym yn credu fod y ddau a fu farw yn adnabod ei gilydd, ond mae yna bethau sy'n gyffredin, sef y lleoliad, amser ac amgylchiadau eu marwolaethau."
Dywedodd eu bod yn ceisio dod o hyd i'r rhai sydd wedi cyflenwi'r cyffuriau.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda gwahanol asiantaethau i annog unigolion i roi'r gorau i gymryd cyffuriau, yn enwedig heroin."
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111