Abertawe 1-1 Crystal Palace
- Cyhoeddwyd

Gylfi Sigurdsson sgoriodd i Abertawe yn yr hanner cyntaf
Dyw Abertawe dal heb golli ers i'r hyfforddwr newydd Francesco Guidolin gymryd y llyw ar ôl i'r Elyrch sicrhau pwynt yn erbyn Crystal Palace.
Gylfi Sigurdsson roddodd Abertawe ar y blaen gan rwydo heibio golwr Cymru, Wayne Hennessey gyda chic rydd o fewn y chwarter awr gyntaf o chwarae yn Stadiwm y Liberty.
Dyma oedd ei bumed gôl o fewn chwe gêm a llwyddodd y tîm cartref i gadw'r fantais tan yr egwyl.
Ond daeth Palace allan yn gryf yn yr ail hanner, a pumed gol y tymor i'r amddiffynnwr Scott Dann ddaeth a'r ymwelwyr yn gyfartal.
Rhwydodd o du mewn i'r cwrt cosbi o gic gornel Yohan Cabaye.
Er i'r ddau dîm gael cyfleoedd i gipio'r pwyntiau, cyfartal oedd hi wedi 90 munud.