'Taclo bwlio yw blaenoriaeth plant'
- Cyhoeddwyd

Taclo bwlio oedd prif flaenoriaeth y mwyafrif o blant rhwng saith ac 18 oed wnaeth gymryd rhan mewn arolwg oedd yn ceisio rhoi llais i bobl ifanc Cymru.
Y flaenoriaeth i blant rhwng tri a saith oed oedd cael mwy o lefydd i chwarae.
Cafodd ymgynghoriad Beth Nesaf? ei lansio gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Dyma un o'r ymgynghoriadau mwyaf o'i fath, gan gynnwys dros 7,000 o blant.
Blaenoriaethau eraill gafodd eu hamlygu oedd:
Gwell amddiffyniad rhag trais yn y cartref;
Cefnogaeth fwy amserol ar faterion iechyd meddwl;
Llai o dlodi;
Ardaloedd lleol fwy diogel.
Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu defnyddio gan y comisiynydd wrth lunio polisïau dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd Ms Holland: "Roedd yr arolwg yn cynnwys llawer o grwpiau sydd ddim yn aml yn cael rhan i gymryd rhan mewn arolygon fel hyn: plant ifanc iawn, a rhai sydd ddim yn yr ysgol oherwydd eu bod yn yr ysbyty, dan glo neu'n ddigartref.
"Bydd Cymru'n gryfach os bydd pob un yn cael cyfle i chwarae eu rhan."