Adfer pŵer i filoedd o gartrefi yn dilyn Storm Imogen
- Cyhoeddwyd

Canlyniad y difrod gafodd ei achosi i'r prom yn Aberystwyth
Mae miloedd o gartrefi wnaeth golli pŵer yn ystod Storm Imogen i gyd wedi cael eu cyflenwad yn ôl.
Dywedodd Western Power Distribution eu bod wedi delio gyda mwy na 5,000 o gartrefi heb drydan ddydd Llun.
Fe wnaeth gwyntoedd o hyd at 83mya gau rhannau o ganol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i deils ddisgyn o adeiladau.
Bu rhan o'r M4 ar gau wedi i lori droi drosodd, roedd teithwyr trenau'n wynebu oedi mawr a chafodd gefnogwyr rygbi oedd yn hedfan yn ol o Ddulyn eu dargyfeirio i Birmingham a Manceinion.

Fe wnaeth y lori droi drosodd ger cyffordd 37 ar yr M4
Mae Trenau Arriva Cymru a Maes Awyr Caerdydd wedi annog teithwyr i wneud yn siŵr nad yw eu taith wedi'u canslo.
Mae nifer o rybuddion llifogydd, dolen allanol yn parhau mewn grym fore Mawrth.
Cafodd gartrefi eu heffeithio yn Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin a Thorfaen.

Roedd yr heddlu wedi cau strydoedd yng nghanol Pen-y-Bont

Bu rhannau o'r rheilffordd Cambria ar gau oherwydd lefel y dŵr
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2016
