Plaid Cymru: Angen aros i ddatrys problemau Ewrop
- Cyhoeddwyd

Mae Jill Evans wedi bod yn Aelod o Senedd Ewrop ers 1999
Mae Plaid Cymru wedi cyfaddef bod "problemau difrifol" gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond bod rhaid i'r DU aros fel aelod i'w helpu i ddatrys y rhain.
Yn lansio ymgyrch Cymru yn Ewrop y blaid, dywedodd yr Aelod Senedd Ewrop, Jill Evans bod Cymru yn cael budd "economaidd, cymdeithasol a diwylliannol" o ei aelodaeth.
Fe wnaeth arweinydd y blaid, Leanne Wood, alw am ymgyrch positif, a dywedodd ei bod yn hapus i weithio gyda phleidiau eraill.
Dywedodd UKIP bod yr ymgyrch yn un "eironig" am fod Plaid Cymru eisiau Cymru annibynnol.
Mewn araith yn Y Rhondda ddydd Mercher, fe wnaeth Ms Wood rybuddio pleidleiswyr i beidio cael eu swyno gan y syniad y byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn rhyw fath o "arwahaniad delfrydol".
'Ewrop newydd'
Ychwanegodd nad yw dadlau dros ystadegau yn debyg o fod yn ddigon i ddarbwyllo pobl i aros yn yr UE.
"Dyw hi ddim yn bosib yn 2016 i godi'r bont ac encilio i ryw arwahaniad delfrydol," meddai.
"Hyd yn oed pe bai hynny'n bosibl, siŵr gen i nad dyna'r fath o wlad yr ydym am i Gymru fod.
Dywedodd mai'r dewis sy'n wynebu pleidleiswyr yw a ydyn nhw am fod yn "gyfrannydd llawn mewn Ewrop newydd".

Dywedodd Leanne Wood ei bod yn hapus i weithio gyda phleidiau eraill ar yr ymgyrch
Fe wnaeth Sam Gould o UKIP Cymru ymateb: "Yr hyn sydd fwyaf eironig yma yw mai prif bwrpas Plaid yw ymgyrchu ar gyfer Cymru anibynnol a hunanlywodraethol.
"Pan fyddwn ni'n gadael yr UE bydd gennym ni reolaeth, a bydd nifer o bynciau fel pysgota, ffermio, adfywio rhanbarthol a masnach yn cael eu datganoli i'r Senedd.
"Ydi Plaid Cymru eisiau gweld y Senedd yn dod yn ganolfan i gadarnhau cyfreithiau o Frwsel?"