£5m i ganolfan iechyd a chymdeithasol yn Y Fflint
- Cyhoeddwyd

Dyluniad artist o'r ganolfan
Mae £5m wedi ei gymeradwyo ar gyfer datblygu canolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd yn Y Fflint.
Y bwriad yw symud meddygon teulu o ddau bractis i'r ganolfan, yn ogystal â chlinigau cymunedol, gwasanaeth deintyddol, therapi galwedigaethol a gwasanaethau cymdeithasol.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford sydd wedi cymeradwyo'r buddsoddiad, fydd hefyd yn darparu gwasanaethau asesu ffisiotherapi ac iechyd meddwl yn ogystal â sawl clinig gan feddygon ymgynghorol.
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dr Peter Higson y byddai'r ganolfan newydd yn golygu bod gwasanaethau iechyd "mor gyfleus â phosib" ac yn cynnig "y gwasanaethau mae pobl eu hangen fwyaf aml mor agos â phosib at eu cartrefi ag y gallwn ni".
'Mwy cynaliadwy'
Dywedodd Mr Drakeford: "Bydd hyn yn helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hirach ac yn cyfrannu at gael gwell canlyniadau i gleifion. Bydd hefyd yn gwneud gwasanaethau lleol yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir."
Bydd pwyslais hefyd ar sicrhau mynediad i bobl at ystod o wasanaethau gwybodaeth a chynghori a help i grwpiau a gwasanaethau i ofalwyr.

Bydd sawl gwasanaeth a chlinig yn cael eu cynnal yn y ganolfan newydd

Yn y gorffennol, bu dros 1,000 o bobl yn protestio yn erbyn cau'r ysbyty
Bydd y ganolfan newydd yn disodli ac yn integreiddio gwasanaethau ac adeiladau a ddarperir ar nifer o safleoedd, gan gynnwys Clinig Borough Grove a hen Ysbyty'r Fflint, ac mae'n un o dair canolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy'n cael eu datblygu yn y gogledd.
Roedd cannoedd o bobl wedi gorymdeithio fel rhan o ymgyrch i geisio cadw gwasanaethau Ysbyty'r Fflint, gan gynnwys cynnal refferendwm yn lleol i sicrhau'r gwasanaethau oedd yno.