Gadael Ewrop yn 'drychineb' i ymchwil mewn prifysgolion
- Cyhoeddwyd

Gallai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd fod yn "drychineb" i ymchwil mewn prifysgolion ym Mhrydain, yn ôl un o wyddonwyr amlycaf y wlad.
Yn siarad yng nghynhadledd BioWales yng Nghaerdydd, dywedodd yr Athro Robert Winston y byddai Prydain ar ei cholled os byddai'n gadael yr Undeb.
Dywedodd: "Mae'n glir iawn petawn ni'n gadael Ewrop, lle rydyn ni'n cael llawer iawn yn fwy allan na'r ydyn ni'n ei roi i mewn ym myd gwyddoniaeth, byddwn ni ar ein colled yn ofnadwy."
Ond mae grŵp Scientists For Britain yn dadlau na fyddai Prydain ar ei cholled o adael yr Undeb Ewropeaidd.
'Colli incwm'
Dywedodd yr Athro Winston, sy'n Arglwydd Llafur am Oes, nad oedd yn siarad yn wleidyddol ond yn "edrych ar y sefyllfa'n ariannol".
"Byddai delio gyda myfyrwyr o Ewrop sydd efallai ddim am ddod yma neu sy'n talu ffioedd gwahanol iawn yn y dyfodol yn broblem fawr i ni," meddai wrth BBC Cymru.
"Fe allwn ni weld ein hunain yn colli llawer o incwm sy'n cefnogi ein prifysgolion ar draws y system."
Roedd yn siarad ar y pwnc o newid genynnau yn y gynhadledd, ar ôl dod yn enwog am ei waith gyda thechnoleg IVF a darlledu.
Ond mae Scientists For Britain yn honni na fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar faes gwyddoniaeth.
Mae'r grŵp, sy'n dweud bod ganddyn nhw 150 o aelodau, yn dweud bod 13 o wledydd y tu allan i'r UE sy'n llwyddo i dderbyn cyllid Ewropeaidd.