Adolygiad BBC: Cymru angen parhau i gael llais
- Cyhoeddwyd

Mae pencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd
Dylai Cymru barhau i gael ei chynrychioli ar fwrdd y BBC, dyna ydy casgliad adolygiad annibynol.
Mae Syr David Clementi, sydd wedi arwain yr adolygiad, yn dweud bod angen cael gwared âg Ymddiriedolaeth y BBC ac y dylai Ofcom "ddwyn y BBC i gyfri".
Dywedodd hefyd y dylai'r BBC gael un bwrdd penodol i fod yn gyfrifol am yr elfen rheoli.
Fis diwethaf awgrymodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan na ddylai bwrdd fel hyn gael cynrychiolaeth o Gymru.
Ond mae Syr David wedi gwrthod y ddadl honno gan ddweud bod yna gynrychiolaeth o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi bodoli ers 1952.